Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) (Cymru) 2023

 

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                         Mae cyfeiriad at baragraff 276BA2 wedi ei gynnwys i ddarparu ar gyfer personau y rhoddwyd caniatâd iddynt yn flaenorol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y paragraff hwnnw o’r rheolau mewnfudo.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:                         Rydym o’r farn bod y diwygiad yn ddigonol gan fod y diffiniad o “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” yn cyfeirio at y myfyrwyr hynny yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio gwneud diwygiad yn y dyfodol i gynorthwyo’r darllenydd yn yr offeryn priodol nesaf, sy’n debygol o gael ei wneud yn yr hydref.

 

Pwyntiau Craffu Technegol 3 a 4:             Rydym yn cytuno mai gwall yw hwn, ac y dylid cyfeirio at baragraff yn hytrach nag is-baragraff. Rydym mewn cysylltiad â Chofrestrydd yr Offerynnau Statudol gyda’r bwriad o gywiro hyn drwy gyfrwng slip cywiro.

 

Pwynt Craffu Technegol 5:                         Rydym yn cytuno bod y ddau ddiffiniad cyntaf sy’n cael eu mewnosod yn y drefn anghywir o ran yr wyddor. Fodd bynnag, nid yw hynny’n effeithio ar effeithiolrwydd y diwygiad.

 

Pwynt Craffu Technegol 6:                         Rydym yn cytuno bod gwall hanesyddol y mae gofyn ei gywiro a byddwn yn ceisio gwneud y diwygiadau angenrheidiol yn yr offeryn priodol nesaf. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd yn yr hydref.

 

Pwynt Craffu Technegol 7:                         Rydym yn cytuno mai gwall yw hwn a byddwn yn ceisio gwneud y diwygiad angenrheidiol yn yr offeryn priodol nesaf. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd yn yr hydref.

 

Pwynt Craffu Technegol 8:                         Rydym yn cytuno mai gwall yw hepgor y diffiniadau Cymraeg mewn testun italig ar ôl y diffiniadau Saesneg cyfatebol a bydd hyn yn cael ei gywiro yn yr offeryn priodol nesaf. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd yn yr hydref.